Norges billigste bøker

Geirfau’r Fflyd, 1632-1633

Om Geirfau’r Fflyd, 1632-1633

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580-1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopiodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopiau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i'r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau'n aml wedi goroesi. Ond nid copiwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu'n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi'n daclus mewn tair llawysgrif. Mae'r geirfau hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y ty a'i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a'u hoffer; dyn, ei gorff a'i afiechydon, a'r gemau a'r chwaraeon a'i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfau gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gwr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu'n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.

Vis mer
  • Språk:
  • Engelsk
  • ISBN:
  • 9781837720545
  • Bindende:
  • Hardback
  • Sider:
  • 540
  • Utgitt:
  • 15. mai 2023
  • Dimensjoner:
  • 223x144x39 mm.
  • Vekt:
  • 796 g.
  På lager
Leveringstid: 4-8 virkedager
Forventet levering: 3. mars 2025

Beskrivelse av Geirfau’r Fflyd, 1632-1633

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580-1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopiodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopiau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i'r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau'n aml wedi goroesi. Ond nid copiwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu'n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi'n daclus mewn tair llawysgrif. Mae'r geirfau hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y ty a'i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a'u hoffer; dyn, ei gorff a'i afiechydon, a'r gemau a'r chwaraeon a'i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfau gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gwr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu'n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.

Brukervurderinger av Geirfau’r Fflyd, 1632-1633



Gjør som tusenvis av andre bokelskere

Abonner på vårt nyhetsbrev og få rabatter og inspirasjon til din neste leseopplevelse.